Croeso i Ddosbarth Derbyn
Miss Rees
2015/16
Mae’r tymor wedi bod yn brysur iawn wrth ddysgu llawer o bethau newydd yn y dosbarth .
Tymor diwethaf, ein thema oedd ‘Bydded y nerth gyda chi’
Treuliwn amser yn adeiladu geiriau a brawddegau a chyflwynwyd y cymeriad Aled Afal er mwyn hybu adeiladu brawddegau a chefnogi'r iaith Gymraeg.
Gweithiwn yn galed gyda rhifau hyd at 20 a dysgom sut i adio a thynnu. Nawr rydym yn gweithio ar ffurfio rhifau yn gywir pob tro.
Dysgom am Gylch bywyd y broga ac rydym wedi mwynhau storiâu yn cynnwys Bili Broga.
Mwynhawyd ystod eang o grefftau gwahanol yn cynnwys peintio a gwaith darlun .
Mwynhawyd ymweliadau wrth y Cwmni Drama Arad Goch a gan y deuawdwyr cerddorol Ric a Do.
Ein thema'r tymor hwn yw Ein Milltir Sgwâr.
Gwybodaeth bwysig i’w chofio:
Ymarfer corff pob Dydd Mercher , mae angen gwisg ymarfer corff.
Cofiwch eich llyfrau darllen pob dydd os gwelwch yn dda.