Menu

Ysgol Glannau Gwaun

O'n Gorau Daw Goleuni

Bl. 5 Miss Davies

Miss. Davies Bl.5

Croeso i Ddosbarth Miss Davies – Blwyddyn 5 Cymraeg 2015/16

 

Tymor y Gwanwyn

Thema’r tymor diwethaf oedd ‘Bydded y Nerth gyda chi’.

Rydym wedi bod yn astudio:

Iaith – ysgrifennu dyddiadur ar Tim Peake, ysgrifennu’n greadigol, creu poster i berswadio, newid stori naratif mewn i sgript, ysgrifennu adroddiad newyddion, ysgrifennu adroddiad i gymharu darnau o waith celf a recordio trafodaeth grŵp.

Mathemateg – amrywiaeth o sgiliau, yn benodol mae’r plant wedi mwynhau gwaith ar ffracsiynau, degolion, canrannau, cyfesurynnau, adlewyrchu a chyfieithu siapiau.

Mae plant hefyd yn cael cyfle i fynd ar ‘Mathletics’ unwaith yr wythnos, a byddwn yn annog y plant i’w ddefnyddio adref, er mwyn datblygu sgiliau tablau.

Thema – astudio’r planedau a’r gofod, sut mae pengwiniaid yn cadw’n dwym, y Groegwyr, creu cyfansoddiad cerddorol gydag offerynnau, peintio a defnyddio pastelau olew wrth wrando ar ddarn o gerddoriaeth, creu model 3D o wennol gofod a defnyddio sgiliau TGCh i greu Pwerbwyntiau a gwaith ar Comic Life.

 

Ymwelwyr

Daeth Tim Brew o ‘Energy in Education’ allan i drafod am gynaliadwyedd ac arbed egni.  Mae’r plant wedi bod yn creu adnoddau i ddangos i wahanol ddosbarthiadau er mwyn annog y disgyblion i arbed egni o gwmpas yr ysgol.

Cafodd y plant ymweliad gan PCSO Carwyn Phillips ac Eirian Thomas, yn siarad am gadw’n ddiogel ar y wê ac yn y gymuned.  Cawson nhw gwrs ar Gymorth Cyntaf hefyd - dyma nhw gyda'u tystysgrifau!

Dyma'r plant yn derbyn eu tystysgrifau Cymorth Cyntaf.

 

Daeth Pat Truss a Mandy Lacey, nyrsys yr ysgol allan i gael trafodaeth am dyfu i fyny.

Cawson ni adloniant gyda Ric-a-Do, yn canu a pherfformio hen ganeuon Gwerin Gymreig.

Ymwelodd Marc Griffiths â’r ysgol er mwyn gwneud gwasanaeth hwylus ar gredu yn eich hunain.

 

Llwyddiannau

Parti Llefaru – 3ydd yn yr Eisteddfod Gylch.

Deuawd – 2il yn yr Eisteddfod Gylch.

Grŵp Dawns Greadigol – 2il yn yr Eisteddfod Dawns.

Ruby Morse – 3ydd yn yr Eisteddfod Dawns.

Côr – 1af yn yr Eisteddfod Sir, ac maent yn mynd ymlaen i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Llongyfarchiadau i bawb!

 

Tymor yr Haf

Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau astudio ein thema newydd, sef ‘Y Filltir Sgwâr’.

 

Gwybodaeth bwysig i gofio

  • Ymarfer corff ar ddydd Mercher – cofiwch eich gwisg ymarfer corff pob wythnos.
  • Profion sillafu ar ddydd Gwener – cofiwch ddysgu’r geiriau’n barod.
  • Cofiwch gwblhau eich gwaith cartref erbyn y dyddiad a roddir i chi.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn annog eich plentyn i ddarllen yn ddyddiol.  Gall hyn gynnwys llyfrau darllen, ond hefyd cylchgronau, ymchwil ar y wê a phapurau newydd.
  • Cofiwch ymarfer eich tablau fel eich bod yn hyderus ynddyn nhw.

 

 

Welcome to Miss Davies’ Class – Year 5 Welsh 2015/16

 

Spring Term

The theme for this term was ‘May the Force be with You’.

We have been studying:

Language – writing a diary on Tim Peake, creative writing, creating a persuasive poster, converting a narrative into a playscript, writing a news report, writing a report to compare pieces of art work and recording a group discussion.

Maths – we’ve covered many skills, the children have especially enjoyed fractions, decimals, percentages, co-ordinates and translating and reflecting shapes.

Pupils also have the opportunity to work on Mathletics once week, which we would like to encourage them to use at home.

Theme – studying space and the planets, how penguins keep warm, the Greeks, composing a piece of music with instruments, painting and using oil pastels while listening to music, creating a 3D model of a space shuttle and using ICT skills to create PowerPoints and work on Comic Life.

 

Visitors

Tim Brew from ‘Energy in Education’ came out to discuss sustainability and saving energy.  The children have been making resources to show to the classes to encourage the pupils to save energy in the school.

The children were visited by Carwyn Phillips and Eirian Thomas regarding Safer Internet use and keeping safe in the community.  They also had a course on First Aid - here they are with their certificates!

Dyma'r plant yn derbyn eu tystysgrifau Cymorth Cyntaf.

 

Pat Truss and Mandy Lacey, the School Nurses, visited Year 5 and 6 to discuss growing up.

Ric-A-Do entertained the children with traditional Welsh Folk songs.

Marc Griffiths visited the school presenting a fun assembly on Believing in Your Dreams.

 

Achievements

Recitation Group – 3rd in the area Eisteddfod.

Duet – 2nd in the area Eisteddfod.

Creative Dance Group – 2nd in the Dance Eisteddfod.

Ruby Morse – 3rd in the Dance Eisteddfod.

Choir – 1st in the County Eisteddfod, and they’ll be going through to the National Eisteddfod.

Congratulations to everyone!

 

Summer Term

We are looking forward to studying the topic ‘Our Square Mile’.

 

Important information to remember

  • PE on Wednesday – remember to bring your kit every week.
  • Spelling tests on Friday – remember to learn the words ready.
  • Remember to complete your homework by the date given to you.
  • Encourage your child to read daily.  This can include comics, magazines, research on the internet and newspapers.
  • Remember to practice your times tables so that you are confident with them.
Top