Menu

Ysgol Glannau Gwaun

O'n Gorau Daw Goleuni

Reception Miss. Rees / Derbyn Miss. Rees

Croeso i Ddosbarth Derbyn

Miss Rees

2015/16

Mae’r tymor wedi bod yn brysur iawn wrth ddysgu llawer o bethau newydd yn y dosbarth .

Tymor diwethaf, ein thema oedd ‘Bydded y nerth gyda chi’

Treuliwn amser yn adeiladu geiriau a brawddegau a chyflwynwyd y cymeriad Aled Afal er mwyn hybu adeiladu brawddegau a chefnogi'r iaith Gymraeg.

Gweithiwn yn galed gyda rhifau hyd at 20 a dysgom sut i adio a thynnu. Nawr rydym yn gweithio ar ffurfio rhifau yn gywir pob tro.

Dysgom am Gylch bywyd y broga ac rydym wedi mwynhau storiâu yn cynnwys Bili Broga.

Mwynhawyd ystod eang o grefftau gwahanol yn cynnwys peintio a gwaith darlun .Picture 1

 Picture 2

Mwynhawyd ymweliadau wrth y Cwmni Drama Arad Goch a gan y deuawdwyr cerddorol Ric a Do.

Ein thema'r tymor hwn yw Ein Milltir Sgwâr.

Gwybodaeth bwysig i’w chofio:

Ymarfer corff pob Dydd Mercher , mae angen gwisg ymarfer corff.

Cofiwch eich llyfrau darllen pob dydd os gwelwch yn dda.

Top